Cartref

Croeso i’r Heliwr, Tafarn Gymunedol yn Nefyn – galwch draw.

Mae’r Heliwr yn dafarn gymunedol efo llety yn nhref Nefyn, tref sydd wedi ei hamgylchynu gan brydferthwch Penrhyn Llŷn a thafliad carreg o Eryri yng Ngogledd Cymru.

Rydym wedi ein lleoli ar Stryd Fawr Nefyn, y lleoliad perffaith i ymwelwyr sy’n dymuno cael blas ar bopeth sydd gan yr ardal i’w gynnig.

Mae Nefyn a’r cyffiniau yn gartref i nifer o draethau, mynyddoedd a thir-nodweddion hanesyddol godidog, yn ogystal â phentrefi prydferth.

Mwynhewch y llu o dafarndai, caffis, bwytai ac atyniadau ymwelwyr gwych yr ardal, a dilynwch Llwybr Arfordir Cymru i’r pentrefi, traethau a childraethau cyfagos.

Dringwch fryniau a mynyddoedd lleol fel Yr Eifl, Gwylwyr, Carreg Lefain a Garn Boduan i werthfawrogi’r golygfeydd godidog a welir o’u copaon. Darganfyddwch gilfachau sy’n gyforiog o lên gwerin, hanes a threftadaeth.

Mae Nefyn yn gyrchfan berffaith i ymgolli mewn iaith a diwylliant Cymraeg. Mae ‘iaith y nefoedd’ yn ffynnu yma, ac rydych yn siŵr o’i chlywed yn cael ei siarad yn y siopau, ar y strydoedd ac wrth gwrs, yn Yr Heliwr.

Yn ogystal â bod yn dafarn draddodiadol Gymreig lle gallwch ymlacio, bwytau, cymdeithasu ac aros, mae’r Heliwr hefyd yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau, gigs cerddoriaeth byw, digwyddiadau diwylliannol a gweithdai creadigol trwy gydol y flwyddyn.

Mae pob ceiniog o elw mae’r Heliwr yn ei wneud yn cael ei ail-fuddsoddi yn y busnes – neu ei ddefnyddio i ariannu prosiectau sy’n dod â budd cymunedol i’r ardal.

Felly ymlaciwch a mwynhewch eich peint!

 

Beth mae ein cwsmeriaid yn ei ddweud...

Wedi ymweld heddiw am y tro cyntaf, croeso cynnes iawn, y tu mewn yn olau neis ac wedi’i gynllunio’n dda. Mae’r dafarn yma yn haeddu pob llwyddiant, clod mawr i’r trigolion lleol sydd wedi rhoi eu hamser i ail greu cyfleuster cymunedol. Argymell i unrhyw un sydd heb eto i ymweld a rhoi cynnig ar y cwrw gwych sydd ar gael.

Oriau Agor y Dafarn o 1.7.24

Dydd Llun: 12.00-11.00yh
Dydd Mawrth-Gwener: 12.00-11.00yh
Dydd Sadwrn: 12.00-11.00yh
Dydd Sul: 12.00- 11.00yh

Cadwch lygaid ar ein tudalen Facebook am ddiweddariadau a newidiadau. Cinio a Swper o 12.00-3.00 a 5.00-8.00 Iau, Gwener a Sadwrn